Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Cork Craft & DesignGwneuthurwr Mewn Ffocws

31 Mawrth - 10 Mai 2015

Yn dilyn gwahoddiad o Cork Craft & Design, ymwelodd Oriel Mission ar ddechrau Mis Crefft Corc (5ed Awst – Medi 2014). Fe’n gwahoddwyd ni i siarad am sut gweithiwn fel oriel Celf a Chrefft, gan gyfuno lle Celf a lle crefft. Roedd hwn nid ond yn gyfle i ymweld a Cork Craft & Design ond i rhannu syniadau ac i ymchwilio gwneuthurwyr Gwyddelig. Tanlinellodd y cyfnewid bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad, gweithio gydag eraill o fewn lle creadigol, trafod syniadau a chysyniadau ac edrych am gyfleoedd i ehangu ein ymarferion ni ag eraill i ddarganfod lle Crefft yng nghymdeithas heddiw.


Yn dilyn y cyfnewid yma, ac i amlygu ansawdd ac amrywiaeth y gwaith a welwyd yng Nghorc, dewiswyd pedwar gwneuthurwr gan Oriel Mission i arddangos eu gwaith o fewn y gwagle Gwneuthurwr mewn Ffocws; Nuala O’Donovan, Lesley Stothers, Anne Harrington Rees a Tuula Harrington.

<< Yn ôl tudalen