Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image
  • Header image

Beate GegenwartGwneuthurwr Mewn Ffocws

16 Medi - 26 Hydref 2014

Natur darniol bodolaeth crwydrol sydd yn tanseilio llawer o’m gwaith, fframwaith  damcaniaethol brau lle mae pob math o naratifau personol ac elfennau darluniadol nifer o ffynonellau yn cysylltu,  yr ysgrifenedig a gweledol ynghyd ag arsylwadau union.  Sylfaen llawer o’r darluniau yw gwagleoedd pensaernïol a manylion penodol lloriau, grisiau a nenfydau, wedi eu torri a’u hail adeiladu yn maes y panel neu’n ddarnau eraill, niferoedd bach, sydd yn tyfu o soledau.

Adeiladir pob darn ar haenau delweddau arluniol, gan ddechrau ar bapur: darluniau o linellau, strwythurau rhwyd gyda llefydd gwag, tyllau; gyda’r llinellau yn dod yn wagleoedd, gan gyfleu naws o symudiad deinamig.

Am | Beate Gegenwart

Artist ac ymchwilydd yn Metropolitan Abertawe, UWTSD yw Beate. Derbyniodd MA Printio Aml Ddisgyblaethol o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste yn 2005 ac MA Serameg, o Brifysgol Cymru, Caerdydd yn 1985.

<< Yn ôl tudalen