Y Gwneuthurwr
Angela MaddockGwneuthurwr Mewn Ffocws
12 Mai - 14 Mehefin 2015
Bleiddiaid mewn gwisg dafad yw Mamau
Mae gan Angela Maddock ddiddordeb yn y modd gallwn ddefnyddio crefft, yn enwedig gwau, i gwestiynu’r syniadau am ein perthynas gyda gwrthrychau a’n gilydd. Ffocysa’r corff yma o waith ar offer gwneud a dadwneud i ymwneud â’r gwagle dros dro a ddisgrifir gan Donald Winnicott. Dehonglia Angela’r gwagle yma rhwng mam a phlentyn fel lle i ddal, i feithrin ac ymlymu, ond hefyd un o drachwant, obsesiwn ac angerdd. Yma chwareir hi gyda defnydd materol sisyrnau a nedwyddau i awgrymu gwagle sydd yn chwareus ond hefyd yn ddi-ffurf, gorlethol a mygol.
Am | Angela Maddock
Addysga Angela lefelau is-raddol ac ol-raddol yn UWTSD, lle mae hi’n arweinydd llwybr i’r MA: Deialogau Gyfoes yn Nhecstilau. Mae ganddi PhD fel ymchwilydd ymarfer yn yr Ysgol Ddeunydd yn y Coleg Celf Brenhinol, lle mae hi hefyd yn ddarlithiwr ymweld.