Y Gwneuthurwr
Alana TysonGwneuthurwr Mewn Ffocws
21 Mehefin - 31 Gorffennaf 2016
Mae gwaith Alana Tyson yn ceisio gwneud synnwyr o’r byd mae hi’n rhan ohono. Mae ei chwestiynu ansicr o gysyniadau thematig amrywiol yn dacteg o weithio trwy broblemau ac fe’i hatynnir i ddeuolrwydd a’r syniad o fod allan o le. Wedi’i ddechrau pan yn artist preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn 2015, mae’r gyfres cerfluniau crochet a choncrit yn ceisio dogfennu a gwynebu chwant, rhwystredigaeth a methiant mamolaeth.