Digwyddiadau
Miwsig, Celf a SgwrsPerfformiad a Sgwrs
07 Mehefin - 07 Mehefin 2018
£5 y person | Mynediad o 7yh, dechrau am 7.30yh
I gadw tocyn, ffoniwch Oriel Mission ar 01792 652016 i dalu o flaen llaw.
Cerddoriaeth a thrafodaeth i ddathlu lansiad albym newydd DnA: Delyth & Angharad Jenkins, Llinyn Arian.
Cyfle i glywed detholiad o gerddoriaeth oddi ar ail albym hir-ddisgwyliedig y deuawd DnA, ac i weld y gwaith celf gwreiddiol gan yr arlunydd Carys Evans, mewn awyrgylch cartrefol Oriel Mission.
Bydd y noson yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb wedi’i arwain gan Peter Richards o Gwmni Theatr Fluellen, lle gallwch glywed am y broses greadigol, a’r cywaith unigryw rhwng yr artist a’r cerddorion.
Mwy am y cerddorion:
Mae’r deuawd mam a merch DnA: Delyth & Angharad Jenkins o Abertawe yn anadlu bywyd newydd i gerddoriaeth hynafol Cymru, trwy eu sgyrsiau hudolus a gwresog rhwng y delyn a’r ffidil. Mae’r ddeuawd hefyd yn cyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol wedi’i hysbrydoli gan amrywiaeth o berthnasau, gan gynnwys perthynas mam a merch.
“…mae’r gerddoriaeth yma wedi’i gwreiddio yn y traddodiad ond ar yr un pryd yn swnio’n hollol wreiddiol a phrydferth…” Cerys Matthews