Yr Oriel

  • Header image

NightswimmingLLE Gallery

28 Gorffennaf - 08 Medi 2018

Dangosiad Preifat: 2yp, ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf

Digwyddiad VIP BEEP: 4-5.30yp, ddydd Gwener 3 Awst 
bydd yr arddangosfa’n parhau tan 8 Medi 2018

Simon Bayliss / Lindsey Bull / Martyn Cross / Gordon Dalton / Lara Davies / Tom Down / Tamara Dubnyckyj / Robbie Fife / Rebecca Gould / Marielle Hehir / Aly Helyer / Linda Hemmersbach / Dan Howard-Birt / Richard James / Iwan Lewis / Jonathan Lux / James Moore / Hannah M Morris / Philip Nicol / Tom Pitt / Ben Risk / Ben Sadler / Casper White / Ellie Young  

“Mae’r nos yn rhoi i ni’r gofod i bethau ddigwydd ynddo. Unwaith i ni fynd drwy’r cyfnos i’r tywyllwch, mae ymylon yn pylu; rydym yn colli’r ymdeimlad âphethau. Rydym yn dechrau cwestiynu beth sydd o’n blaenau; rydym yn dod yn ymwybodol o allu’r tywyllwch i luosi peryglon. Yr ofn o gael ein dal. Yn nyfnderoedd tywyllwch, rydym o hyd mewn amheuaeth. Mae ein golwg yn chwilota’n barhaus, mae ffigyrau a ffurfiau’n ymddangos ac yn diflannu yn y cysgodion. Bydd artistiaid yn aml yn defnyddio’r ddrysfa yma i dynnu allan ffurfiau a syniadau, fel canfod ffigwr mewn paentiad haniaethol.”

Pleser o’r mwyaf i Oriel y Genhadaeth yw cyflwyno LLE, prosiect curadurol dan arweiniad artistiaid sydd â ffocws ar baentio cyfoes. O leoliad yng Nghymru, maent yn anelu at arddangos eu hartistiaid drwy gyfrwng prosiectau, arddangosfeydd a ffeiriau celf rhyngwladol.

Mae diffyg golau’n nodwedd gyson wrth greu gwaith celf, o’r paentiadau cynharaf mewn ogofâu drwodd i weithiau Rembrandt ac yn nes ymlaen Walter Sickert. Yn y sioe hon mae LLE yn dwyn at ei gilydd weithiau cyfoes sy’n ymestyn i’r tywyllwch, gan gwestiynu sut mae’r diffyg golau’n effeithio ar y gwaith a beth mae hyn yn ei olygu i’r gwyliwr. 

Mae Nightswimmingwedi cael ei threfnu ar y cyd âBiennale Paentio BEEP sy’n rhoi sylw i baentio cyfoes bywiog ac a gynhelir mewn canolfannau ar draws Abertawe drwy gydol yr haf. Bydd sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau cysylltiedig eraill yn cael eu trefnu i ategu’r arddangosfa tra bydd hi ymlaen.

 

<< Yn ôl tudalen