Yr Oriel

  • Header image
  • Header image

Lyrical OneDathliad Canmlwyddiant Dylan Thomas 2014

04 Hydref - 02 Tachwedd 2014

Marcia hyn ganmlwyddiant geni mab afrodlon Abertawe, Dylan Thomas. Prosiect cydweithredol wedi ei drefnu gan Oriel Mission a Snug Projects a fydd yn cymryd lle trwy gydol Hydref 2014 yw ‘Lyrical One’. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys nifer o weithdai a chyfarfodydd fforwm i fyfyrwyr, beirdd a cherddorwyr lled-broffesiynol.

Ffurfia’r prosiect yma sylfaen i ddatblygiad prosiect cyfredol a fydd yn dod ag ysgrifennwyr caneuon wedi eu selio yng Nghymru ynghyd i ymateb a’u ysbrydoli gan themau o fewn gwaith Dylan Thomas. Daw dau gyfrwng creadigol ynghyd lle rydym ni yng Nghymru yn ymfalchio ynddynt ac â phresenoldeb gyfoes – defnydd creadigol a thelynegol o iaith a cherddoriaeth gyfoes.

Bydd Lyrical One yn creu fforwm i ysgrifennywr cerdd ifanc a sefydlog yn ogystal â chyfres o weithdai i gerddorwyr/telynegwyr ifanc. Hyrwydda’r prosiect enw Dylan Thomas a Chymru i gyhoedd byd-eang, gan ddarparu perfformiad cyhoeddus a phresenoldeb rhyngwladol trwy gyfrwng cymdeithasol a rhyngrwyd.

Ar y cyd gyda’r gweithdai a’r perfformiad yma byddwn yn cynnal arddangosfa a fydd yn cynnwys gwaith gan artistiaid sydd yn ysgrifennu, defnyddio ysgrifen neu lle daw eu hysbrydoliaeth, cydweithrediadau a dylanwad, o’r byd llenyddol, barddoniaeth a rhyddiaith.

 

Gan gynnwys:

Sam Hasler, Artist/Ysgrifennydd (Caerdydd)

Laura Reeves, Artist (Abertawe)

Keith Bayliss, Peintiwr (Abertawe)

David Thomas, Bardd (Birmingham/Abertawe)

Rowan Lear, Artist Perfformiad/Ysgrifennydd (Bryste/Abertawe)

Catriona Ryan, Ysgrifennydd (Abertawe)

Joe Bayliss, Cerddor (Abertawe/Bryste)

Iwan Bala, Artist (Caerdydd)

Angharad Jenkins, Cerddor (Abertawe)

<< Yn ôl tudalen