Yr Oriel

  • Header image

Gathered Again

20 Mehefin - 02 Awst 2015

Bydd y rhaglen tair rhan o weithgareddau, wedi’u cynhyrchu gan staff Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio UWTSD Abertawe, y n a rchwilio ethos y Cwrs Sylfaen a’r ysgol gelf a sefyllfa presennol addysg celf yng Nghymru a’r DU.

Bydd yr arddangosfa yma yn dod a graddedigion Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio UWTSD Abertawe at ei gilydd. Hoffai’r tîm Cwrs Sylfaen ddathlu dros 100 mlynedd o’r cwrs a’r myfyrwyr a astudiodd arno, gan ei fod wedi ei selio o fewn yr ysgol gelf hynaf yng Nghymru.


Dengys cofnodion bod cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf wedi’i ddechrau yn Abertawe yn 1967, 47 mlynedd yn ôl. Er hyn, ers 1909 mae yna ddosbarthiadau sydd wedi dilyn patrwm y Cwrs Sylfaen, felly gellid dweud fod y cwrs, mewn un ffurf neu arall, wedi bodoli am 105 o flynyddoedd. O 1909 - 1967 teitl y cwrs oedd Celf a Dylunio Cyffredinol, a ddisgrifiwyd ar y pryd fel ‘cwrs celf gyflwynedig cyffredinol’. Mae myfyrwyr y Cwrs Sylfaen wedi mynd ymlaen i amryw o yrfaoedd o fewn diwydiannau celf a dylunio ac eraill. Bydd yr arddangosfa yma yn dathlu gwaith casgliad o raddedigion blynyddoedd diweddar.


Mae yna lefydd ar gael ar Gwrs Celf a Dylunio Sylfaen ym Medi 2015. Ymwelwch â www.uwtsd.ac.uk am fwy o wybodaeth.

<< Yn ôl tudalen