Yr Oriel

  • Header image

Criw Celf​Disgyblion blwyddyn 5 a 6 o Gastell Nedd Port Talbot ac Abertawe

12 Gorffennaf - 05 Awst 2016

Oddi-ar-Safle yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe

Rhagarddangosfa | 4yp Dydd Mawrth 12ed Gorffennaf

I’w agor gan Philip Eglin

Prosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Criw Celf ar gyfer plant sydd wedi dangos talent a diddordeb arbennig yng Nghelf a Dylunio. Dewisir plant i ymuno â Chriw Celf o ysgolion Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot gan gynnig cyfle arbennig i ddatblygu eu hymarfer creadigol a gwybodaeth o gelfyddyd celf weledol a chymhwysol. Fe gymeron nhw ran mewn chwe dosbarth arbenigol wedi’u harwain gan artistiaid proffesiynol lle cawsant gyfle i arbrofi ac archwilio amrywiaeth o dechnegau celf a gweithdai creadigol. Rhy hyn gyfle iddynt weithio mewn oriel yn lle dosbarth ysgol gydag artistiaid proffesiynol sydd am rannu eu hymarfer gan ddarganfod ffordd i hybu creadigrwydd pobl ifanc. Daeth canlyniad pob gweithdy at ei gilydd i ffurfio arddangosfa terfyn prosiect, gan arddangos taith a datblygiad grŵp Criw Celf.

<< Yn ôl tudalen