Yr Oriel

  • Header image
  • Header image

Codi’r BarMyfyrwyr Celf a Dylunio Lefel A/AS o Gastell Nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin

11 Mehefin - 03 Gorffennaf 2016

Mae’n bleser gan Oriel Mission gyflwyno canlyniadau rhaglen addysg gelf Codi’r Bar, gyda’r arddangosfa yma gan fyfyrwyr Celf a Dylunio talentog Lefel AS/A Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin.

 

Mae Oriel Mission yn gweithio ar bartneriaethau cydweithredol a traws sirol gyda Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot, a UWTSD Abertawe - i ddosbarthu profiad newydd i ddisgyblion ysgolion a cholegau yr ardaloedd hynny. Mae’r rhaglen yn cynnig dosbarthiadau arbenigol wedi eu selio ar y raglen arddangosfeydd yn Oriel Mission a UWTSD, gan ddefnyddio eu hoffer a’u chyfleusterau arbenigol. Mae’r gweithdai i’w cynnal gan artistiaid sefydledig sydd yn arbenigo yn Arlunio, Ffotograffiaeth, Gwydr, Ymarfer Celf Gyfoes a Dylunio Tecstil. Mae’r cyfranwyr hefyd yn profi ymweliadau stiwdio artist, tripiau ymchwil i Gaerdydd a Llundain, a chymorth mentor o artistiaid sesiynau’r Codi’r Bar.

 

Blwyddyn yma, mae Oriel Mission yn edrych mlaen i arddangos canlyniadau y dosbarthiadau arbenigolyma sydd wedi dangos arbrofion myfywyr ar draws y disgyblaethau amrywiol yma. Mae canlyniadau Codi’r Bar yn waith sydd wedi ehangu a herio, tra profi gallu ac ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan yr artistiaid ifanc yma.

 


 

Cliciwch yma i lawrlwytho ein llyfryn diweddaraf.

<< Yn ôl tudalen