Yr Oriel

  • Header image
  • Header image

Cipio EiliadauRhian Hâf | Arddangosfa Deithiol Canolfan Grefft Rhuthun

23 Ionawr - 13 Mawrth 2016

‘Prydferthwch cynnil cysgod a golau sy’n gwneud gwaith Rhian Hâf mor ddeniadol. Mae’n eich gorfodi i graffu a gwerthfawrogi rhinweddau yn yr amgylchedd dinesig fyddai’n cael eu colli fel arall. Mae’r cyfanwaith yn gyfuniad perffaith o grefft, pensaerniaeth a dylunio.’

Angharad Pearce Jones, Arlunydd a detholwr Y Lle Celf 2015


Astudiaeth o olau plyg yw Cipio Eiliadau. Mae cysgodion yn cael eu taflu o ddarnau gwydr sydd wedi eu goleuo. Mae’r gwydr caboledig trachywir mewn gosodiad sydd wedi ei ddylunio yn gymhleth. Mae’r gwaith yn cynnig argraffiadau sy’n ymddangosiadol i’r gwyliwr o olau drwy wydr. Mae Rhian yn cipio’r effeithiau symudol hyn ac yn rhoi’r cyfle i ni werthfawrogi, cwestiynu a mwynhau’r hyn a welwn ni. Hudol.


Gan archwilio gallu gwydr i drawsyrru ac amsugno golau, cyflwyna Cipio Eiliadau gyfres o ddarnau unigol sydd yn dal a phlygu golau. Elfennau cynradd a ffocws proses Rhian, yn cynnwys cyfieithu a datblygu arsylwadau personol o funudau tawel, darfodedig; chwarae golau a chysgod mewn gwagleoedd pensaernïol neu adlewyrchiad wedi ei brosiectio ar ddarn o wydr. Gan ymgorffori ymchwil ffotograffig, arlunio a’u datblygu’n ymhellach mae’n dal y munudau diflanedig yma a’u defnyddio fel sylfaen i ddatblygu corff o waith.


A hithau’n enillydd diweddar medal aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2015, mae gwaith Rhian yn archwilio rhyngberthynas gwydr a golau. Mae ei hymchwiliad i briodweddau gwydr yn ei harwain i ganfod potensial dylunio ehangach.

 


Cliciwch yma i lawrlwytho ein llyfryn diweddaraf.

<< Yn ôl tudalen